Cadwraeth
Mae Archifau Gwent yn cydnabod mai cadwraeth ataliol yw’r dull mwyaf effeithiol o gadw ei gofnodion. Bydd cadwraeth ataliol yn ffurfio prif ffocws gweithgareddau.
Mae angen blaenoriaethu gofynion cadwraeth i benderfynu ar strategaethau cadwraeth hirdymor. Bydd cymryd penderfyniadau yn cymryd i ystyriaeth anghenion y defnyddiwr; cyflwr y deunyddiau a goblygiadau adnoddau; pwysigrwydd y deunydd (gweler hefyd Polisi Casglu a Gwerthuso) a’r lefel o ddefnydd a ddisgwylir.
Mae’r stiwdio gadwraeth yn Archifau Gwent yn darparu cyfleusterau modern i alluogi trin pob math o ddogfen yn fewnol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Llyfrau
- Papur
- Ffotograffau
- Memrwn
- Seliau
- Mapiau a chynlluniau
Cyngor
Oes gennych chi gasgliad o hen ddogfennau a ffotograffau teuluol gartre?
Mae ein cadwraethwr bob amser yn hapus i gynnig cyngor ar sut i storio a gofalu am y dogfennau hyn yn y dull gorau. Gallwch gysylltu gyda ni drwy ebost, ar y ffôn neu drwy lythyr i drafod eich cofnodion, ac os oes angen, gallwn drefnu ymgynghoriad.
Mae’r stiwdio gadwraeth hefyd yn gwneud gwaith allanol i aelodau’r cyhoedd.
(Mae ein cadwraethwr wedi ei hyfforddi i drwsio a gwneud gwaith cadwraeth ataliol ar lyfrau, mapiau, cynlluniau, posteri, papur o bob math, memrwn, seliau cwyr a rhai triniaethau ar ddeunydd ffotograffig. Ni allwn ymgymryd â gwaith ar beintiadau, cerameg, metel, pren neu decstilau ond gallwn awgrymu cyflenwyr amgen.)
Taliadau cadwraeth
Am restr o’n taliadau ar gyfer gwasanaethau cadwraeth, gwelwch ein hadran Ffioedd a Thaliadau
ENGHREIFFTIAU O'R BROSES CADWRAETH

Papur: Dyma indeintur papur dyfrwe a wnaed â llaw o 1876. Mae wedi ei ddifrodi ar ôl cael ei drafod, a gan gnofilod.

Y cam cyntaf yw marcio'r difrod sydd angen i ni ei drwsio. Gwnawn hynny drwy osod darn o melinex dros y papur a defnyddio marciwr parhaol i'w farcio.

Byddai papur Japaneaidd yn cael ei lynu wrth gefn y papur i gynnal y rhwygau bach, a defnyddiwyd darn o bapur tebyg o ran tôn a phwysau i fewnlenwi. Defnyddiwyd past gwenith heb glwten i ludo'r holl atgyweiriadau. Wrth fynd ati i drwsio dogfennau dylid defnyddio tebyg gyda thebyg. Felly am fod papur yn ddefnydd sydd wedi ei wneud o blanhigyn, rydym yn defnyddio deunyddiau o blanhigion i'w drwsio.

Defnyddiom siambr leithio i adnewyddu bondiau hydrogen y ffibrau cellwlos sydd mewn papur.

Yna byddai'r ddogfen yn cael ei rhoi rhwng darnau o bapur sugno a byrddau ar ôl ei sychu'n gyfan gwbl, a'i gosod mewn gwasg. Yna byddai'r papurau sugno yn cael eu newid bob ychydig oriau tan fod y ddogfen yn hollol sych.