Adneuo eich Casgliadau

Rydym bob amser yn hapus i drafod casgliadau newydd sy’n dweud mwy wrthym am Gwent a’i phobl. Gallant fod yn gofnodion unigolion, busnesau neu sefydliadau. Mae ein Polisïau Casgliadau Archif a Llyfrgell yn rhoi manylion y mathau o gofnodion rydym yn eu casglu.

Mae ein Telerau Adneuo yn nodi sut y byddwn yn storio’r cofnodion a’u catalogio, y ffordd y gall y cyhoedd eu gweld, yr hawlfreintiau a’r hawliau atgynhyrchu. Mae'r ddogfen hon hefyd yn cynnwys canllawiau ar sut i lenwi ein Ffurflen Gytundeb.

Gallwn dderbyn cofnodion mewn fformatau papur neu ddigidol. Mae canllawiau ar gael ar adneuo cofnodion digidol, ac mae ein polisïau Arfarnu a Gofal a Chadwraeth Casgliadau yn cynnwys gwybodaeth sy’n egluro sut yr ydym yn gofalu am eitemau unwaith y byddant yn ein gofal.

Os hoffech siarad gyda ni am gofnodion posibl i’w hadneuo, cysylltwch â ni.