Gwasanaeth Addysg

Mae Archifau Gwent yn cynnig cyfle unigryw i athrawon a myfyrwyr ddod i gyswllt â’r gorffennol, a’i  archwilio. Gellir defnyddio ein casgliadau helaeth ar gyfer ystod eang o destunau - i archwilio hanes Gwent o’r cyfnod canoloesol hyd yr 20fed ganrif, ond hefyd i ddarganfod newidiadau ym maes technoleg a’r hinsawdd; ac er mwyn ymchwilio i brofiadau De-ddwyrain Cymru o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, o weithgarwch streicio i’r Rhyfeloedd Byd a’r Ymerodraeth Brydeinig.   

Rydyn ni’n cynnig (AM DDIM!) arweiniad ac adnoddau sy’n gallu cefnogi’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a chynefin.   

  • Gweithdai Ar y Safle: gallwn groesawu hyd at 30 o fyfyrwyr i’r Archifau a chynnig y cyfle iddynt i archwilio a dysgu gan ddefnyddio dogfennau gwreiddiol. Mae’r sesiynau’n para hyd at 2 awr ac yn cynnwys taith y tu ôl i’r llenni gyda chyfle i fyfyrwyr ddysgu sut yr ydym yn gofalu am ein dogfennau.    
  • Gweithdai Oddi Ar y Safle: rydyn ni’n hapus i ddod atoch chi i ddarparu gweithdai mewn ystafell ddosbarth neu leoliad tebyg i gynulliad. Er na allwn ddod â dogfennau gwreiddiol i’r sesiynau hyn, fe fydd y myfyrwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o gopïau o ansawdd uchel.  
  • Sesiynau Cyfarwyddo Athrawon: rydym yn cynnig sesiynau cyflwyno’r Archifau a’n casgliadau i athrawon.  Gall y sesiynau hyfforddiant yma i athrawon fod yn rhan o gyfarfod staff neu ddiwrnod hyfforddiant ysgol; a gallan nhw ddigwydd yn yr Archifau, yn yr ysgol neu’n rhithwir, a byddant yn eich cyflwyno i amrywiaeth o ddogfennau o’n casgliadau a sut gallan nhw gael eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd.  Gall sesiynau gael eu rhoi yn ystod oriau ysgol neu ar ôl yr ysgol fel rhan o sesiwn gyda’r hwyr.   

  Nodwch os gwelwch yn dda bod angen o leiaf 6-8 wythnos ar yr Archifau i baratoi gweithdai.  

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Addysg yr Archif a sut y gallwn ni eich helpu chi, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bost -

enquiries@gwentarchives.gov.uk