Digwyddiadau a Gweithgareddau

Mae Archifau yn ein helpu ni i ddysgu mwy am straeon pobl Gwent.  Mae ein staff gwybodus a brwdfrydig yn cyflenwi amrediad eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y safle, arlein ac yn eich lleoliad chi i rannu’r straeon yma, a chefnogi dysgu a sgiliau:

  • Gweithdai ar ein casgliadau allweddol
  • Rhaglen o sgyrsiau
  • Teithiau cerdded o gwmpas lleoliadau allweddol
  • Gweithdai a gweithgareddau i ysgolion lleol, colegau a phrifysgolion
  • Ymweliadau grŵp a theithiau o gwmpas Archifau Gwent
  • Sgyrsiau gyda grwpiau a sefydliadau lleol

Bydd ein rhaglen yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon, a dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram (@gwentarchives) i gael y newyddion diweddaraf