Ymwadiad

Mae Archifdy Gwent yn sylweddoli pan ddewiswch roi gwybodaeth i ni amdanoch eich hun, eich bod yn ymddiried ynom i weithredu mewn modd cyfrifol.

Nid yw Archifdy Gwent yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy'n cyrchu'r wefan yma, heblaw lle dewiswch yn wirfoddol i roi eich manylion personol i ni drwy e-bost, yn defnyddio ffurflen electronig neu ymholi am unrhyw rai o'n gwasanaethau.

Ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch a gafwyd drwy'r we i unrhyw gwmnïau eraill neu unigolion allanol os nad oes angen cyfreithiol i ni wneud hynny neu gyda'ch caniatâd penodol.

Os ydych wedi rhoi gwybodaeth sensitif megis rhif cerdyn credyd ar gyfer talu, byddwn yn sicrhau fod amgodio'r rhif yn diogelu hyn. Dim ond ar gyfer prosesu taliadau y defnyddir rhifau cardiau credyd ac ni chânt eu cadw ar gyfer unrhyw ddiben arall.

Gall ein gwefan roi dolenni i safleoedd trydydd parti. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hynny, anogwn chi i adolygu polisïau preifatrwydd y safleoedd trydydd parti yma.

Caiff gwybodaeth a gesglir gan Archifdy Gwent ei storio a'i phrosesu mewn cronfeydd data y mae Archifdy Gwent yn unig berchennog arnynt.

Arolygon

Gallwn weithiau gynnal arolygon ar-lein. Defnyddir hyn i fesur ein gwasanaeth, casglu gwybodaeth ddemograffig a gwybodaeth arall a all fod yn ddefnyddiol i ni. Mae'r arolygon hyn yn opsiynol. Gallwn rannu gyda thrydydd parti wybodaeth gronnus nad yw'n bersonol.

Defnyddwyr dan 18

Os ydych dan 18 oed, dylech gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y rhoddwch wybodaeth bersonol i'r wefan yma.

Newidiadau

Gall Archifdy Gwent adolygu'r Telerau hyn ar unrhyw amser drwy ddiweddaru'r postiad yma. Fe'ch cynghorir i ymweld â'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i adolygu'r Telerau sy'n gyfredol bryd hynny oherwydd eu bod yn eich rhwymo. Gall rhai darpariaethau o'r Telerau hyn gael eu disodli gan hysbysiadau cyfreithiol penodol neu delerau a leolir ar dudalennau neilltuol o wefan Archifdy Gwent.

Cyffredinol

Mae Archifdy Gwent yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan yma (www.gwentarchives.gov.uk) yn gyfredol ac yn gywir ond ni all dderbyn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw gamgymeriad neu wall. Mae Archifdy Gwent yn cadw'r hawl i wneud newidiadau heb hysbysiad ymlaen llaw.

Os canfyddwch unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau y credwch sy'n anghywir neu'n amhriodol, gofynnir i chi ein hysbysu drwy e-bost neu drwy lenwi'r ffurflen adborth ar-lein.

Materion Firws

Mae Archifdy Gwent yn gwneud pob ymdrech i gynnal gwiriad firws ar wybodaeth a wneir ar gael i'w lawrlwytho ar y safle yma. Ni all Archifdy Gwent dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd o ddefnyddio deunydd wedi'i lawrlwytho, argymhellwn fod defnyddwyr yn ailwirio'r holl ddeunydd a lawrlwythwyd gyda'u meddalwedd gwiriad firws eu hunain.

Safleoedd Trydydd Parti

Fel cyfleustra i chi, gall Archifdy Gwent ddarparu dolenni ar y safle yma i wefannau a weithredir gan gyrff eraill. Os defnyddiwch y safleoedd hyn, byddwch yn gadael y safle yma. Os penderfynwch ymweld ag unrhyw safle y mae dolen iddi, gwnewch hynny ar eich risg eich hunan a'ch cyfrifoldeb chi yw cymryd pob mesur diogelu i warchod yn erbyn firysau neu elfennau dinistriol eraill. Nid yw Archifdy Gwent yn gwneud unrhyw warant neu gynrychiolaeth am, ac nid yw'n cadarnhau, unrhyw wefannau y mae dolen iddynt na'r wybodaeth sy'n ymddangos ar unrhyw gynnyrch neu wasanaethau a ddisgrifir arnynt. Nid yw dolen yn golygu fod Archifdy Gwent yn cymeradwyo, yn aelod na'n gysylltiedig gyda, neu wedi ei awdurdodi'n gyfreithiol i ddefnyddio unrhyw nod masnach, enw masnach, logo neu symbol hawlfraint a ddangosir ar neu sy'n hygyrch drwy'r ddolen, neu fod unrhyw safle y mae dolen iddi ag awdurdod i ddefnyddio unrhyw nod masnach, enw masnach, logo neu symbol hawlfraint Archifdy Gwent.

Newidiadau

Gall Archifdy Gwent adolygu'r Telerau hyn ar unrhyw amser drwy ddiweddaru'r postiad yma. Fe'ch cynghorir i ymweld â'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i adolygu'r Telerau sy'n gyfredol bryd hynny oherwydd eu bod yn eich rhwymo. Gall rhai darpariaethau o'r Telerau hyn gael eu disodli gan hysbysiadau cyfreithiol penodol neu delerau a leolir ar dudalennau neilltuol o wefan Archifdy Gwent.