Ymweld â Ni
Ymwelwch â ni yn Archifau Gwent i ddarganfod straeon difyr am bobl ac ardaloedd Gwent, wedi eu datgelu drwy gyfrwng cyfoeth o adnoddau archifol.
Cyn eich ymweliad
Bwciwch eich apwyntiad ar ein ffurflen bwcio. Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi, a bydd angen bwcio ar wahân yn eu henw nhw.
Dewiswch eich dogfennau gan ddefnyddio ein catalogau arlein, Hwb Archifau a Discovery a’u hychwanegu at y ffurflen bwcio.
Cofrestrwch i gael Cerdyn Archifau, a bydd ond raid i chi ddod â phrawf o bwy ydych er mwyn i ni gwblhau’r broses a rhoi eich cerdyn i chi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn enquiries@gwentarchives.gov.uk neu ar 01495 766261.