Gwasanaethau Ar y Safle
P'un a ydych yn ymweld am y tro cyntaf neu'n ymwelydd rheolaidd bydd ein staff cyfeillgar, cynorthwyol a gwybodus yn eich tywys drwy ein prosesau.
Mae gennym archifau sy'n ymwneud â phob agwedd ar fywyd yng Ngwent, yn eu fformat gwreiddiol yn ogystal â chopïau ar ficroffilm ac ar-lein, a chyfleusterau ardderchog i gael mynediad atynt:
- lle i gael hyd i ddogfennau gwreiddiol
- darllenydd microffilm i ddarllen microffilm, argraffu neu greu copïau digidol ar gof bach
- Wifi
- Cyfrifiaduron i gael hyd i gatalogau ac adnoddau ar-lein
Bydd angen i ymwelwyr gofrestru i dderbyn Cerdyn Archif ymlaen llaw, cyn eu hymweliad.
