Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw

Mae Archifau Gwent yn falch o fod yn aelod o Bartneriaeth Tirwedd Lefelau Byw (PTLP) – Cynllun Partneriaeth Tirwedd a Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda’r nod o ailgysylltu pobl a chymunedau gyda Morfeydd Gwent a darparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr ardal hanesyddol ac unigryw hon.

Mae gennym amrywiol gofnodion am y Morfeydd yn amrywio o gofnodion plwyf a chofnodion ysgol, mapiau a ffotograffau i gofnodion y Comisiynwyr Carthffosiaeth a Bwrdd Draenio Cil-y-coed a Gwynllŵg.

I gael gwybod mwy am y prosiect a’r dirwedd hanesyddol hon, ewch i Lefelau  Byw a Map hanesyddol Lefelau Byw.