Prosiect gwirfoddoli archifau digidol #CrowdCymru  

 

Diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, aethom ati i greu partneriaeth waith gydag Archifau Morgannwg, Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru  i gyflwyno prosiect gwirfoddoli digidol.

Deilliodd y syniad ar gyfer y prosiect o'r angen i ddangos ein bod, fel partneriaid prosiect, yn ymdrechu i fabwysiadu dull cyflym, rhagweithiol a chydweithredol o foderneiddio ein gwasanaethau i gyflawni map uchelgeisiol  Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru sy’n anelu i “wella bywydau pawb, drwy gydweithio, arloesi a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n well”. 

Fe wnaethom ddefnyddio gwybodaeth eithriadol gan unigolion ledled Cymru a thu hwnt, i’n helpu i wella’r wybodaeth am ein casgliadau. 

Gan ddefnyddio llwyfan ar-lein dwyieithog, sydd newydd ei greu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, aethom ati i wahodd gwirfoddolwyr i dagio, mynegeio a thrawsgrifio dogfennau fel eu bod yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr. 

Rhoddodd y broses hon y sgiliau digidol angenrheidiol sydd eu hangen ar bobl erbyn hyn i feithrin cysylltiad da yn eu cymunedau a datblygu’r sgiliau hyn i fanteisio’n llawn wrth fynd ati i geisio cyfleoedd yn y gweithle a gwella lles. Ar ben hynny, rydym wedi paratoi'r ffordd i wasanaethau archifau ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwirfoddoli o bell heb yr angen i deithio, sy'n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau ein hôl troed carbon. Cawsom gyfanswm o dros naw deg o wirfoddolwyr, ac er bod y mwyafrif ohonynt yn hanu o Gymru, cawsom rhai o mor bell ag UDA, Canada, Awstralia a De Corea.

Gyda'i gilydd, fe wnaethant gyfrannu dros 1,430 o oriau’n gwirfoddoli ar gyfer y prosiect hwn.   

Daeth y prosiect hwn i ben ar 30 Tachwedd. Yn ystod y cyfnod o 16 mis, cawsom ein syfrdanu gan haelioni llwyr yr amgylchedd a’r sector archifau treftadaeth. Cafodd y prosiect hwn ei fodloni ar bob lefel, gyda chynigion o gymorth a chefnogaeth a gwir ymdeimlad o gydweithio i gefnogi ymdrechion unigol er lles y sector gyfan. Mor hyfryd oedd bod yn rhan o gymuned mor wych.

Roedd tîm y prosiect yn awyddus i rannu'r profiadau, y dysgu a'r arfer gorau yn dilyn y prosiect gyda'r sector treftadaeth, ac arweiniodd hyn at ddatblygu Llawlyfr Prosiect yn ogystal ag adroddiad  opsiynau ar gyfer ariannu yn y dyfodol 

Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect, a'r gweithgareddau a gynhaliwyd, drwy ddilyn y dolenni isod.  

Mae'r holl gynnwys wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution 4.0  

Archifau Cymru

Archives and Records Association (UK & Ireland)