Prosiect gwirfoddoli archifau digidol #CrowdCymru
Partneriaeth weithio gydag Archifau Morgannwg, Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, Diwylliant Conwy | Archifau Conwy, Archifau Sir Gaerfyrddin, Prifysgol Abertawe Llyfrgelloedd ac Archifau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Casgliadau Arbennig ac Archifau a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyflawni prosiect gwirfoddoli digidol.
Yn flaenorol, cawsom ein hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond ar hyn o bryd rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru tan 31 Mawrth 2025.
Ganed y syniad ar gyfer y prosiect o'r angen i ddangos ein bod, fel partneriaid prosiect, yn ymdrechu i fynd ati mewn ffordd gyflym, ragweithiol a chydweithredol i foderneiddio ein gwasanaethau, er mwyn bodloni map trywydd uchelgeisiol Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru sy’n anelu at "wella bywydau pawb drwy gydweithio, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell".
Rydym yn ffrwyno gwybodaeth eithriadol unigolion ledled Cymru – a thu hwnt - i helpu i wella'r wybodaeth am ein casgliadau.
Rydym yn defnyddio platfform dwyieithog ar-lein a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn gwahodd gwirfoddolwyr i dagio, mynegeio a thrawsgrifio dogfennau i'w gwneud yn fwy hygyrch i ymchwilwyr.
Mae'r broses hon yn arfogi mwy o bobl â'r sgiliau digidol y mae eu hangen arnynt nawr i barhau i fod â chysylltiadau da ar draws eu cymunedau, ac i ddatblygu'r sgiliau hyn i fanteisio'n llawn arnynt wrth chwilio am gyfleoedd yn y gweithle ac ar gyfer eu llesiant. Ar ben hynny, rydym yn paratoi'r ffordd er mwyn i wasanaethau archifau ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwirfoddoli o bell, heb yr angen i deithio, sy'n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau ein hôl troed carbon. Daw ein gwirfoddolwyr o Gymru yn bennaf, ond mae yna rai wedi cofrestru o UDA, Canada ac Awstralia.
Gyda phob cais am gymorth a chefnogaeth, mae'r prosiect hwn wedi cael cynigion lu a gwir ymdeimlad o gydweithio i gefnogi ymdrechion unigol, er lles y sector cyfan. Mae mor wych i fod yn rhan o gymuned mor anhygoel.
Rydym yn awyddus i rannu profiadau, dysgu ac arfer gorau o'r prosiect, gyda'r sector treftadaeth, ac rydym wedi ysgrifennu am y cam o’n gwaith a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn Llawlyfr y Prosiect sydd ar gael yma.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, a'r gweithgarwch sydd wedi bod ar waith, trwy ddilyn y dolenni isod.
Roedd tîm y prosiect yn awyddus i rannu'r profiadau, y dysgu a'r arfer gorau yn dilyn y prosiect gyda'r sector treftadaeth, ac arweiniodd hyn at ddatblygu Llawlyfr Prosiect yn ogystal ag adroddiad opsiynau ar gyfer ariannu yn y dyfodol
Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect, a'r gweithgareddau a gynhaliwyd, drwy ddilyn y dolenni isod.
Mae'r holl gynnwys wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution 4.0
- #CrowdCymru (@crowdcymru) / X (twitter.com)
- #CrowdCymru (padlet.com)
-
Y Diweddaraf am y Prosiect i Fforwm Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (3 Hydref 2023)
-
Cyfres o ddarlithoedd Archifau Morgannwg (14 Chwefror 2023)
-
Ar ddiwedd ein cyfnod a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gofynnom i’n gwirfoddolwyr ddweud wrthym – mewn 'Munud o Ryfeddod' - am eu hoff ddogfen, hoff ddelwedd neu hoff gasgliad. #CrowdCymru: Rhyfeddodau-Un-Funud
Archifau Cymru
- #CrowdCymru: Diweddariad Prosiect (21 Medi 2023)
- #CrowdCymru: diweddariad y Prosiect (11 Mai 2023)
- #CrowdCymru:Diwdeddariad (3 Rhagfyr 2022)
-
Croeso i #CrowdCymru (16 Awst 2022)
Archives and Records Association (UK & Ireland)
-
#CrowdCymru digital archives volunteer project blog post (11 Hydref 2023)
-
‘Outside the Box’ Podcast (27 Mehefin 2023)