Archifau

Mae ein casgliadau archifau i’w gweld yma, a gallwch hefyd eu darganfod drwy’r wybodaeth arlein ynghyd ag ar y safle yng Nglyn Ebwy. Rydym yn gweithio ar ein catalog arlein newydd, y gellir ei chwilio’n llawn, ond yn y cyfamser mae catalogau PDF i’w gweld yn y panel ar ochr chwith y dudalen hon. Hefyd, edrychwch ar yr Hwb Archifau a Darganfod i gael gwybodaeth am ein casgliadau.

Mae cynnwys rhai o’n casgliadau (gan gynnwys cofrestri plwyf a chofrestri etholiadol) ar gael yn:-

Ancestry

Find My Past

The Genealogist

a rhai delweddau yng Nghasgliad y Bobl Cymru 

Cysylltwch â ni ar enquiries@gwentarchives.gov.uk i gael help a chyngor os oes angen!

I gael gwybodaeth am ddefnyddio ein catalogau a’n hadnoddau ar-lein gweler ein ffilm isod:-

Er bod y mwyafrif o'r casgliadau sydd gennym ar gael at ddibenion ymchwil, cyfyngir ar y mynediad i rai ohonynt oherwydd:

  • Cyflwr bregus y dogfennau
  • Ceisiadau gan yr adneuydd i gyfyngu ar fynediad i’r dogfennau
  • Natur sensitif y wybodaeth sydd yn y dogfennau

A fyddech cystal â darllen ein canllawiau ar fynediad i gofnodion cyfyngedig