Ymweld â Ni
Ymwelwch â ni yn Archifau Gwent i ddarganfod straeon difyr am bobl ac ardaloedd Gwent, wedi eu datgelu drwy gyfrwng cyfoeth o adnoddau archifol.
Cyn eich ymweliad
Bwciwch eich apwyntiad drwy gysylltu â ni yn enquiries@gwentarchives.gov.uk neu ar 01495 766261. Rhowch wybod os hoffech ymweld am y bore (9:30-12:00), y prynhawn (13:30-16:30) neu am y diwrnod cyfan. Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi, a bydd angen iddo/iddi archebu ar wahân yn ei enw/henw.
Dewiswch eich dogfennau gan ddefnyddio ein catalogau ar-lein, Hwb Archifau a Discovery a rhowch wybod inni beth hoffech chi ei weld. Bydd aelodau staff ar gael yn ystod eich ymweliad i’ch cynghori ynghylch y casgliadau cyn ac yn ystod eich ymweliad.
Cofrestrwch i gael Cerdyn Archifau, a bydd ond raid i chi ddod â phrawf o bwy ydych er mwyn i ni gwblhau’r broses a rhoi eich cerdyn i chi.