Trawsnewid Gofal Casgliadau yn Archifau Gwent
Diolch i Lywodraeth Cymru, a’u Rhaglen Gwelliannau Cyfalaf Rheolaeth Casgliadau, bydd y tîm yn Archifau Gwent yn treulio’r 6 mis nesaf yn trawsnewid nifer o’n hystafelloedd prosesu casgliadau i greu lle mwy effeithiol i ofalu am ein harchifau.
Bydd £80,000 yn caniatáu i ni:
-
Aildrefnu’r ystafell digideiddio bresennol fel ystafell brysbennu ar gyfer asesu casgliadau newydd, adnabod eitemau a allai fod yn llaith, wedi llwydo, â phlâu neu sydd angen gwaith cadwraeth ac ail-becynnu casgliadau newydd mewn blychau archif. Bydd yr offer digideiddio’n cael ei symud i ystafell lai fel bod lle’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.
-
Gosod silffoedd symudol mewn ystafell ddiogel nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd er mwyn ei defnyddio fel ystafell neilltuo ar gyfer unrhyw eitemau y mae angen eu neilltuo er mwyn atal traws-halogiad, er enghraifft, os ydyn nhw wedi eu heffeithio gan lwydni, plâu neu leithder. Bydd cwpwrdd storio oer yn cael ei brynu ar gyfer eitemau y mae angen eu trin trwy eu rhewi.
-
Ailosod yr ystafell storio cadwraeth i storio deunyddiau’n well, gan greu lle yn y stiwdio gyfagos ar gyfer offer ychwanegol fel gilotîn haearn ar lawr ar gyfer gwneud blychau. Bydd byrddau y gellir newid eu huchder yn cymryd lle’r byrddau gwaith presennol i wella hygyrchedd.
-
Cynyddu’r ‘ystafell waith’ bresennol, ble mae gwaith catalogio’r casgliadau’n digwydd, er mwyn cynnwys ystafell drws nesaf nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd. Bydd hyn yn caniatáu i fwy o staff gatalogio’r casgliadau, gan osod mwy o gasgliadau ar gael ar gyfer ymchwil, a bydd byrddau y gellir newid eu huchder yn cynyddu hygyrchedd.
Dechreuodd y gwaith yn gynnar yn Nhachwedd a bydd yn dod i ben erbyn diwedd Mawrth 2025. Ni ddylai fod yna unrhyw effaith ar fynediad i’r casgliadau yn Archifau Gwent, ond efallai bydd rhywfaint mwy o sŵn nag arfer!
Byddwn yn rhoi mwy o newyddion am y prosiect yn rheolaidd yn y cyfryngau cymdeithasol, felly dilynwch ni i wybod mwy!