Llywodraethu
Mae Archifau Gwent Archives yn wasanaeth ar y cyd i Gynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd. Gweinyddir y gwasanaeth gan Gyd Bwyllgor Archifau Gwent, pwyllgor o gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig, a chynhelir cyfarfodydd pedair gwaith y flwyddyn. Yn y cyfarfodydd, mae’r Archifydd Sirol yn rhoi adroddiad ar weithgareddau gan Archifau Gwent yn y tri mis blaenorol.
Mae gwybodaeth am aelodaeth bresennol y Pwyllgor a chofnodion ac agendâu ar gyfer cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ar gael yma.
Cyfrifon Ariannol
Darperir y dogfennau isod fel rhan o’r broses archwilio ariannol:
- Notice of Audit of Accounts 2021/2022 / Archwiliad O Gyfrifon 2021/2022
- Annual Return 2020/2021 / Ffurflen Flynyddol 2020/2021
- Notice of Conclusion of the Audit of Accounts 2021/2021 / Hysbysiad am Archwilio Cyfrifon 2020/2021
- Notice of Certification of Audit Completion 2020/2021 / Hybsysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad 2020/2021
Preifatrwydd
Rydym yn cymryd preifatrwydd gwybodaeth o ddifrif, ac mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn manylu sut mae gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei chasglu a’i phrosesu.
Adborth
Rydym yn gobeithio bod pawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth, boed ar y safle neu o bell, yn cael profiad da, ond weithiau nid yw popeth yn mynd yn iawn. Rydym yn croesawu adborth, ac yn ei annog, a gellir cysylltu â ni yn enquiries@gwentarchives.gov.uk. Rydym hefyd yn dilyn trefn gwyno ffurfiol, ac mae gwybodaeth ar sut i wneud cwyn ffurfiol i’w gweld yma.