Ein Casgliad
Rydym yn gofalu am filiynau o gofnodion yn ymwneud â gorffennol Gwent ac yn sicrhau eu bod ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Gwent a straeon y bobl a oedd yn byw yma. Gellir gweld ein cofnodion yn ein Hystafell Ymchwil yn y Swyddfeydd Cyffredinol; mae rhai casgliadau a ddefnyddir yn aml ar gael arlein ac rydym yn cynnig gwasanaethau ymholiadau a digideiddio y telir amdanynt.
I gael gwybod beth sydd gennym, edrychwch ar ein gwybodaeth ar y Casgliadau Archifau, y Casgliad Llyfrgell Astudiaethau Lleol . Mae Canllawiau Ymchwil ac Adnoddau ar gael hefyd, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn enquiries@gwentarchives.gov.uk.