Ystafell Ymchwil
Mae ymweld ag Archifau Gwent yn golygu bod gennych fynediad i nifer helaeth o ddogfennau hanesyddol unigryw yn ein Hystafell Ymchwil. Er mwyn cael y mwyaf o’ch ymweliad, ac i’n cynorthwyo i’w cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau i ddod, gofynnwn i chi ddilyn rhai camau syml.
Cofiwch fod Staff Archifau Gwent yno i’ch helpu – os oes gennych unrhyw amheuon neu os ydych yn ansicr, gofynnwch.

Cotiau a Bagiau
A fyddech cystal â gadael cotiau a bagiau yn yr ystafell gypyrddau. Nid oes angen arian i ddefnyddio’r cypyrddau; maent yn rhad ac am ddim. Gofynnwn i bobl ddod â chyn lleied â phosibl i’r ystafell ymchwil. Dewch â phensil a nodiadur. Rydym hefyd yn caniatáu gliniaduron.
Dod yn Ddefnyddiwr Archifau Gwent
Ydd angen i chi hefyd gofrestru ar gyfer Cerdyn Archifau cyn eich ymweliad. Rhoddir eich cerdyn i chi yn ystod eich ymweliad – dim ond angen dod â rhywbeth sy’n profi pwy ydych chi o’r rhestr.
Cyfarwyddyd
Dilynwch y ddolen yma i weld Rheolau’r Ystafell Ymchwil. Mae hyn yn esbonio’r yr hyn i’w wneud ac i’w osgoi yn Archifau Gwent.
Copïo Dogfennau
Gallwn gopïo'r mwyafrif o’r dogfennau, a chodir tâl am hyn. Aelod o staff cymwys fydd yn copïo dogfennau er mwyn eu cadw’n ddiogel, felly bydd y gost yn uwch na’r gost mewn llyfrgell. Serch hynny, am ffi fechan, fe allwch ddefnyddio camera digidol (heb fflach) i dynnu lluniau o’r dogfennau. Gwaherddir y defnydd o Sganwyr Llaw. Caniateir y defnydd o ddyfeisiau reprograffig pellach yn ôl disgresiwn y staff.
Defnyddio Dogfennau
Wrth ddefnyddio dogfennau, cymerwch ofal rhag i chi achosi difrod iddynt. A fyddech cystal â:
- Sicrhau bod eich dwylo yn lân a thrafod y dogfennau cyn lleied â phosibl.
- Defnyddiwch bensiliau yn unig a pheidiwch â dos a beiros i’r Ystafell Ymchwil.
- Ceisiwch osgoi pwyso ar ddogfennau neu eu rhoi o dan eich nodiadur.
- Defnyddiwch bwysau a chynhalwyr – bydd y staff yn fodlon dangos i chi.
- Peidiwch â llyfu’ch bysedd wrth droi tudalennau!
Cymryd Egwyl
Mae croeso i chi ddefnyddio’r Ystafell Gyhoeddus ar gyfer unrhyw fwyd neu ddiod sydd gennych. Mae byrbrydau syml a diodydd hefyd ar gael ar y safle.
